Croeso i Wefan Cymdeithas Rheilffyrdd Model Casnewydd.

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

Newyddion CRhMC – Digwyddiadau Nesaf

Dim byd arall wedi’i gynllunio ar gyfer 2024 eto ond mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf.

mural in Newport
Murlun gan Kenneth George Budd (1925–1995, Cylchdro’r Old Green, Casnewydd

Ffurfiwyd y clwb amser maith yn ôl, wel yn y 1960au a bod yn onest. Os rhedwch chi, adeiladu neu ond yn chwilfrydig am fyd y rheilffyrdd model, rydych chi wedi dod o hyd i gartref fan hyn. Roedd y rhan fwyaf o’n haelodau unwaith yn ifanc a ddim yn gwybod yn well; bellach maen nhw’n henach … ond ddim yn ddoethach o hyd! Clwb bach ydyn ni ond rydyn ni wastad yn awyddus i groesawu pobl o fryd tebyg. Dydyn ni ddim yn cymryd ein hunain ormod o ddifrif!!

O fewn y clwb, mae aelodau gyda ni sydd yn modelu lled N, HO, HOm, OO, P4, Scalefour, lled O, ScaleSeven, a lled cul i 4mm/tr, 7mm/tr a 16mm/tr tra bo ymlyniadau prototeip yn cwmpasu LB&SCR y bedwaredd ganrif ar bymtheg, LNWR, GWR Edwardaidd a rhwng y rhyfeloedd, Cambrian, Aberhonddu a Merthyr, S&DJR, Swistirol, rheilffyrdd lled cul ac ysgafn Lloegr a Chymru, Siapaneaidd, stêm Americanaidd a diesel cynnar i bob rhanbarth o Reilffyrdd Prydeinig (RhP) (wel, efallai nid yr Alban).

Cwrdd y clwb yng Nghanolfan Gymunedol Shaftesbury yn Evans Street, Casnewydd, NP20 5LD. Gweler tudalen Sut i ddod o hyd i ni am gyfeiriadau.

Ar hyn o bryd, cwrddwn ni yn ystafelloedd y clwb ar brynhawn Llun, weithiau ar nos Fawrth a bob nos Wener, ac rydyn ni’n dal i gwrdd ar lein ar y dydd Mawrth cyntaf a’r trydydd y mis. Mae parcio hawdd ar gael, fel y mae te, coffi a bisgedi. Os byddwch chi’n bwriadu galw draw, bydd yn well cysylltu â ni’n gyntaf.

Cynhaliwn ni ddiwrnodau agored a diwrnodau trac prawf lled O o bryd i’w gilydd yn ein clwb pan agorwn ni ein drysau i bawb.

Frecclesham yw ein gweddlun 7mm presennol, sydd yn seiliedig ar ymarfer Rhanbarth Deheuol RhP ac wedi’i hysbrydoli’n fras gan leoliad cynffurfiol. Buodd yn ymddangos yn rhifyn Medi 2014 o “Railway Modeller”. Gellir dod o hyd i luniau o sesiwn tynnu lluniau’r cylchgrawn ar dudalen Frecclesham RM 2014.

Abergavenny Blackbrook yw ein llunwedd raddfa 4mm. Adeiledir i safonau Protofour ac mae’n seiliedig ar ymarfer RhP(Rhanbarth Gorllewinol) yng nghanol y pumdegau.

Mae Frecclesham, Abergavenny Blackbrook a llunweddau amrywiol aelodau ar gael ar gyfer Arddangosfeydd – gweler Gwybodaeth i Reolwyr Arddangosfeydd am fanylion.

Sied Nwyddau a Gorsaf  Frecclesham; © Railway Modeller 2014.
Sied Nwyddau a Gorsaf  Frecclesham; © Railway Modeller 2014.
Frecclesham
Frecclesham
Pavilion End gan Dave Hagger
Pavilion End gan Dave Hagger
Belle Vue
Belle Vue
Bwthyn y Rhosod gan Steve Neill
Bwthyn y Rhosod gan Steve Neill
Beechwood Park
Beechwood Park
Hazlehurst
Hazlehurst
Scroll to Top