Frecclesham

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

Hanes Fer Frecclesham

Fel llawer o drefi marchnad, roedd Frecclesham eisiau cysylltiad rheilffordd â Llundain a’r arfordir.  Roedd yna gred y byddai rheilffyrdd yn dod â ffyniant ac fel rhan o’r ehangiad mawr ar y rheilffordd yn y 19eg ganrif, cymeradwywyd Deddf Seneddol ym 1891 i adeiladu’r llinell o Lower Bannister trwodd i Hazelhurst gyda gorsaf yn Frecclesham.

Yn y diwedd, ni chyrhaeddodd y llinell ond cyn belled â Frecclesham. Roedd hyn oherwydd cyfuniad o gamreoli ariannol gan y CRh ar y pryd (Uwchgapten B.Nock, goroeswr Balaclafa) a’r syrfëwr truenus anghymwys (Mr H.Crun) a adeiladodd y llinell o Upper Bannister.

Agorodd y lein o’r diwedd ym 1901, gan golli’n llwyddiannus oes aur adeiladu’r rheilffordd ac unrhyw obaith o gael budd ariannol. Wastad yn ddŵr cefn cysglyd, roedd yn dal i ragdybio cysylltu trwyddo â Hazelhurst. Felly y cynllun cyffredinol yw gorsaf drwodd yn hytrach na therfynfa.

Gweithrediadau Tynnu-Gwthio oedd y trenau a drefnwyd yn bennaf.

Hanes ychydig yn hysbys Frecclesham

Buodd Frecclesham (yngenir “Freccles-Ham”) yn marchata ei hunan fel Cartref Teisen Eccles Amgen, dantaith oedd yn unigryw i’r ardal.  I’r anwyliadwrus, gallai hyn ddod fel sioc, yn cynnwys fel y gwnaeth berdys mewn potiau yn lle rhesins.  Mynediad i berdys o’r arfordir oedd y cymhelliad tu hwnt i ymdrechion cynnar i sefydlu cyswllt rheilffordd.

Daeth y cyswllt rheilffordd yn rhy hwyr i achub y dantaith egr rhag diflannu oddi ar fyrddau cinio y DU, sefyllfa a alarodd ychydig.

Ffigyrau Hanesyddol

Uwchgapten B. Nock (1820 i 1905): Roedd y farn leol yn rhanedig am yr Uwchgapten.  Portreodd e ei hunan fel dyn o foddion annibynnol a goroeswr Brwydr Balaclafa, gan hawlio iddo fe gymryd rhan yn Ymosodiad y Brigâd Ysgafn.  Awgrymodd ei fuchanwyr bod ei oroesiad o ganlyniad i or-gysgu y bore tyngedfennol hwnnw.  Ffigwr arwyddocaol oedd e yn hanes gynnar y rheilffordd, yn dod yn CRh y cwmni.  Ymddiswyddodd e o’i swydd ar ôl i anghysondebau ariannol ddod i’r amlwg; ni phrofwyd dim erioed.

H. Crun (1795 i 1892): Mae ei fywyd cynnar dan len o ddirgelwch.  Mae’r cofnodion cyntaf yn datgelu mai fe oedd batwas i Arglwydd Raglan yn ystod Ymgyrch y Crimea, erbyn pryd roedd Henry yn ei 60au eisoes.  Cwtogwyd ei yrfa yn y fyddin ar ôl amnewid tocyn sychlanhau yn anfwriadol am orchmynion y Brigâd Ysgafn a achosodd rhywfaint o embaras i’w gyflogwr.

Y Model

Er bod cynllun y cledrau yn eitha syml, er mwyn ei wasgu i mewn i’r gofod o ddim ond 14 troedfedd ( nid canfas mawr ar raddfa 7mm) mae’n cynnwys tandem sy’n arwain at slip dwbl a slip allanol yn yr iard nwyddau!  Mae hyn yn gwneud y pwyntiau croesi dychwelyd yn eitha cyffredin o’u cymharu.  I gymhlethu pethau ymhellach, gosodir y cyfan ar gromlin dyner!  Cynhyrchwyd y cynllun cledrau gan Bwdryn Hall wrth ddefnyddio Templot ac adeiladwyd y trac gna Tony Bennett.  Roedd Tony yn cael ei adnabod yn annwyl fel y Rheolwr Tew ac, yn anffodus, collodd ei frwydr â salwch ychydig o flynyddoedd yn ôl.  Adeiladodd e’r trac i safonau 31.2mm a thystiolaeth yw hi i’w sgiliau bod angen ychydig o ffetlo i’w roi ar waith.  Mae’r dilyniant a ddarlunnir yn yr arddangosfa yn llawer prysurach nag y byddai unrhyw leoliad o’r fath wedi’i fwynhau.

Mae hyn yn 25 troedfedd wrth 3 troedfedd gyda 14 troedfedd o wylio. Mae’n cael ei weithredu o’r tu blaen ac mae angen tîm o 4 o bobl i’w gadw i redeg yn dda.
Gellir ei gludo mewn LWB Transit neu debyg. Mae manylion rheolwyr arddangosfeydd i’w gweld yma.

Golygfeydd y Llunwedd

Caban Signalau Frecclesham

Tynnir yr olygfa hon trwy goed sy’n dangos y caban signalau a gwddf yr orsaf.
Mae’r tandem (pwynt 3 ffordd) yn rhoi mynediad i’r Bae, y Prif Blatfform ynghyd â Iard/Dolen.

Cit Churchward o gaban Swanage yw’r caban, wedi’i addasu ychydig i weddu i’r lleoliad sydd wedi’i osod yn ôl i’r clawdd mewn cilfach furiog. Adeiladwyd y cit gan YAI a’i orffen gan y Cadeirydd (a ychwanegodd y tu mewn hefyd).

Mae’r llun hefyd yn dangos rhodio’r pwyntiau (a osodwyd gan Bwdryn Hall) sy’n ychwanegu at yr olygfa. Nesaf i fyny mae’r gwifrau signalau. Daeth cydrannau’r trac gan C&L Finescale, sy’n cario llun tebyg ar eu gwefan.

Caban signalau o’r iard nwyddau

Ar y dde mae llun o’r Ysgubor a ddefnyddir i guddio mynedfa’r llunwedd.

Tynnwyd hyn pan oedd yr unig ran o’r gosodiad ag unrhyw driniaeth golygfaol. Wedi’i adeiladu ar wahân hyd yn oed ar hyn o bryd mae newydd ei osod yn y fan a’r lle.

Yr ysgubor fel bloc golygfaol.
Gorsaf Frecclesham

Dyma olygfa o Adeilad yr Orsaf yn edrych drwy’r Iard Nwyddau.


Mae gan y sied nwyddau ar y dde do a bydd yn destun ychwanegiad llun yn y dyfodol. Cynhwysais i’r olygfa hon gan fy mod i’n hoff iawn o’r llwyfannu a’r effaith!

Mae set yr M7 a Maunsell Tynnu-Gwthio yn aros am y ffordd yn y Bae tra bod y SECR D1 wedi rhedeg o amgylch set Lyme-Regis a bydd yn dilyn ymhen ychydig. Mae hon yn olygfa nodweddiadol yn ystod y gweithredu.

Yn aros am y ffordd
Golygfa o’r iard drefnu

Mae’r olygfa olaf yn un na ellir ei gweld pan gaiff ei harddangos, a dim ond yn anaml i ni! Tynnodd y Cadeirydd hyn gan edrych tuag at yr Orsaf o ddiwedd yr Iard Drefnu.

Mae’r llun yn dangos cefn yr Ysgubor a’r goeden yn union y tu ôl iddo (o edrych arno o flaen y llunwedd). Mae’r coed yn nodwedd arwyddocaol o’r llunwedd, sydd ag ychydig iawn ar gyfer gofod mor fach!

Y syniad cyffredinol oedd osgoi er enghraifft pont ffordd yn cuddio’r mynediad/allanfa, trwy guddio twll yn yr olygfa gefn – dyma lle mae’r Ysgubor a’r coed yn dod i mewn.

Scroll to Top