Pavilion End

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

Mae llunwedd Dave Hagger, Pavilion End, wedi chwifio baner y clwb mewn sawl arddangosfa. Dyma hanes ei thro cyntaf allan yn arddangosfa Cymdeithas Clybiau Rheilffyrdd Model Cymru a Gorllewin Lloegr yn Thornbury 2-4 Mai 2024.

Felly, dyma fe.
Am ei harddangosiad cyntaf, roedd y cludiant a’r cydosodiad yn gymharol ddidrafferth.

Rydyn ni’n hoffi cyflwyno ein llunweddau’n dda gyda bwa proseniwm a goleuadau.

Gallwch chi weld bod tiwb fflworoleuol annibynadwy gyda ni yng nghanol y llunwedd. Yn ffodus, pedwar am bris tri oedd y cynnig ar eBay felly roedd un sbȃr gyda fi a chafodd hwnnw ei gyfnewid. Mae’r Mogwl ar fin rhedeg o gwmpas y Set-B.
Mae’r trên glo yn barod i ymadael unwaith bydd y Set-B yn cyrraedd. Os bydd pobl yn tynnu lluniau o onglau gwirion fel hyn, bydd rhaid i fi osod y papur bric ar wal yr arglawdd.
Dyma siyntiwr y gweithfeydd yn codi wagenni o’r trên nwyddau lleol. Achosodd y drych ar y pen pellaf dipyn o sylw.
Cynhyrchion Lionheart yw’r tanc cewyll a’r awto-gerbyd ac maen nhw’n neis iawn hefyd.
Mae’r trên nwyddau lleol lleiaf yn barod i ymadael. Rhaid i fi osod y signalau daear.
Wi’n bendant yn falch o’r effaith gyffredinol.
Mae Paul a Steve yn gweithredu. Nid y gorau oedd yr hen reolyddion Lenz efallai.
A Rob yn gweithio’n galed yn yr Iard Drefnu.
Golygfa iardmon o’r gweithgareddau
Os adeiladwch chi eich cledrau eich hun, byddwch chi’n gyfarwydd â’r bwlch cul wrth ochr trwyn pwyntiau, ac maen nhw’n un o’r dimensiynau hollbwysig. Wel, roedden ni braidd yn gul am le rhwng ein llunwedd ni a’r un nesaf a’r dimensiwn hollbwysig oedd y ffordd flans yn y llun uwchben. Er mwyn cyrraedd blaen y llunwedd, roedd naill ai’n cyfateb i’r dimensiwn hwn neu’n cerdded yr holl ffordd o gwmpas.

Gellir dod o hyd i fanylion y llunwedd ar gyfer Rheolwyr Arddangosfeydd yma.

Scroll to Top