Abergavenny Blackbrook

Bod yn llunwedd syml, fach P4 yw pwrpas Abergavenny Blackbrook (a elwir yn serchog fel ABB) wedi’i dylunio i fynd â hi ar y Gylchdaith Arddangosfeydd.

Fe’i chynlluniwyd i ffitio i mewn i ddau gar stad (gweler sut gwnaethon ni fe isod) a, gyda llygad i’r dyfodol, mae’n darparu llwyfan i brofi a rhoi pwysau ar y stoc injans a systemau cyplysu a datblygu a hogi technegau.

Roedd y cynllun trac yn seiliedig yn gysyniadol ar gynllun Frecclesham, sy’n rhoi digon o gyfle ar gyfer trefn weithredu resymol, ond mae ei bwyntiau cyfansawdd wedi’u disodli gan unedau safonol ar gyfer cyflymder adeiladu. Yn amheus, mae’r dyluniad terfynol yn debyg iawn i Dowlais Canolog (B&MR).

Rydyn ni’n falch o’r effaith gyffredinol.

Mae manylion y llunwedd ar gyfer Rheolwyr Arddangosfeydd i’w gweld yma.

Hanes

Yn ein hanes, roedd bwrdeisi da’r Fenni yn anfodlon â’r ffaith bod lein y Gogledd a’r Gorllewin (Casnewydd i’r Amwythig) mor bell o’r dref ac yn pwyso am orsaf yng nghanol y dref.  Gan ddymuno cadw’r LNWR i ffwrdd, ymatebodd y GWR drwy hyrwyddo cwmni enwebol annibynnol i adeiladu cangen fer, gyda’r gobaith o estyniad ar hyd Dyffryn Wysg i Grucywel ac Aberhonddu.  Ni ddaeth yr estyniad i fodolaeth a buan iawn yr oedd y cwmni yn llwyr yn nwylo GW ond caniataodd y gangen i’r dref ehangu a goroesodd y gangen fer tan ganol y chwedegau.

Estynnwyd gwasanaethau o reilffordd Cwm Nedd o Heol Pont-y-pŵl ac mae’r trenau MT&A o Ferthyr (sydd bellach wedi’u cymryd drosodd gan Ranbarth Gorllewinol Rheilffyrdd Prydain) yn ogystal â rhai o’r gwasanaethau prif reilffordd byrrach i Gaerdydd a Henffordd hefyd yn gweithio i mewn i’r orsaf.  Bu’r boblogaeth gynyddol yn fuddiol ar drothwy’r Ail Ryfel Byd gan fod y dref yn darparu (ac yn dal i ddarparu) nifer sylweddol o weithwyr ar gyfer ROF Glascoed ac mae trên gweithwyr yn rhedeg yn ddyddiol i Glascoed (SX), sy’n cael ei stablu yn y Fenni dros nos. Mae’r rhan fwyaf o nwyddau’n osgoi’r orsaf, ond mae rhywfaint o draffig cludo nwyddau, yn gyffredinol  glo tai, ac yn cynnal diwydiant amaethyddol yr ardal.

Yn cael ei hadnabod fel y Fenni gydag ychwanegiad GWR y rhan fwyaf o’i oes, ers ychydig ar ôl gwladoli (Hydref 1954 yw hi bellach) mae Blackbrook wedi’i ychwanegu at enw’r orsaf er mwyn osgoi unrhyw ddryswch gyda’r gorsafoedd eraill sy’n dwyn enw’r dref.

Adeiladu

Y cynllun Templot a osodir ar y byrddau sylfaen.
Rhedeg prawf yn ystod Hydref 2017. Mae balastio a gorchudd tir hefyd ar y gweill.
Rob Foot yn cydosod un o’r casetiau loco ar gyfer yr iard trefnu. Cafwyd hyd i’r gwaelodion acrylig wedi’u torri i faint a thorrwyd y mewnosodiadau MDF canolog â laser i’n lluniadau.
Adeiladodd Steve Neill y panel rheoli. Mae’r botymau coch yn magnetau dadfachu; mae’r switshys togl yn rheoli’r serfos pwyntiau ac mae’r botymau gwthio gwyn yn switshys dewis llwybr.
Ar ben arall y system rheoli, mae serfo-modur gyda ni.. Mae’r gyriant i’r cranc trwy cydadnwr sy’n cymryd gormod o symud mas ac yn atal gormod o rym yn cael ei roi ar y bar clymu.  Yn gysylltiedig a’r cranc hwn mae echel tro sy’n cael ei sodro i granc arall (graddfa) uwchben y bwrdd sylfaen.
Peth o’r stoc sy’n cael ei baratoi ar gyfer ABB.
Gosod gwefrau a phrofi ar y gweill.
Y dan-lanast. Does neb yn credu mai dim ond dwy wifren sydd eisiau ar gyfer RhGD, ond fydden ni byth hebddo.
Rydyn ni’n modelu Cymru yn yr hydref. Bydd pyllau.
Rhai o ddarpar-adeiladau ar gyfer ABB.
I fireinio maint yr agorfa yn yr wyneb, gwnaethon ni frasfodel o’r olygfa hon.
Roedd y symudiad injan llwyddiannus cyntaf o un pen i’r llall yn haeddu dathliad.
Dyma ABB yn ei arddangosfa gyntaf yn Nhrefynwy, yn dal i fod yn waith ar y gweill, gyda Mike E yn gyrru, ddydd Sul, 18fed Chwefror 2018.

Symud

Un o’r meini prawf dylunio ar gyfer ABB oedd y gallai ffitio i mewn i ddau gar stad ar gyfer cludiant hawdd (a heb faniau ar rent) i arddangosfeydd. Daeth y prawf ddydd Sadwrn 17eg Chwefror pan gludon ni fe i’w arddangosfa gyntaf yn Nhrefynwy.

Cymerodd Car 1 y bwrdd iard trefnu a’r bwrdd golygfaol canolog, wedi’u siamesu gyda’i gilydd er hwylustod a chludiant diogel. I’r dde gellir gweld y bwrdd sylfaen trionglog sy’n sefyll ar ei ben ei hun, a’r llysenw ‘toblerones’.
Golygfa o Gar 1 o’r ochr. Roedd sedd flaen y teithiwr ar gael i weithredwr arall.
Cymerodd Car 2 y ddau fwrdd sy’n weddill, a welir yma y tu ôl i’r ddau flwch sy’n dyblu i fyny fel grisiau bach ar gyfer gweithredwr yr iard trefnu.
Roedd sedd car 2 yn cynnwys y blwch modelu hanfodol a bag o ‘stwff’. Mae’n ddigon posib y byddai hyn yn cael ei gadw’n fwy deallus ond gan nad oedd angen y sedd ar neb, fe arhosodd yno.
Wedi cyrraedd Trefynwy gyda’r ddau fwrdd golygfaol allanol yn y blaendir.
Popeth yn barod i’w godi.
Codi yn mynd rhagddo’n dda. Mae’r olygfa hon yn dangos y ‘toblerones’ yn eu lle a’r wyneb yn barod i’w osod.
Bron yno – yr wynebfwrdd yn cael ei gydosod.
Gorchudd yn ei le, wedi’i gychwyn a goleuadau ymlaen,
ac yn barod i wynebu’r cyhoedd.
Scroll to Top