Tŷ’n-y-Coedcae

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

Crynodeb

Ail lunwedd Graddfa Saith LBH yw Tŷ’n-y-Coedcae. Mae’n cynrychioli iard nwyddau fechan ac arhosfan ar Gangen Caerffili o Reilffordd Aberhonddu a Merthyr (B&MR), yn ail ddegawd yr 20fed ganrif yn ôl pob tebyg.

Mae’r llunwedd wedi’i hadeiladu i safonau Graddfa Saith h.y. graddfa o 7mm/tr a mesurydd o 33mm. Gellir cael rhagor o wybodaeth am fodelu yn ScaleSeven ar wefan Grŵp ScaleSeven (Saesneg).

Mae diweddariadau ar ddatblygu’r cynllun nawr i’w gweld ym mlog y clwb yma, unwaith y byddwch yno, cliciwch ar dag glas Tŷ’n-y-Coedcae i gael y stori.

Mae gwybodaeth i Reolwyr Arddangosfeydd ar gael yma.

Y Rheilffordd yn Nhŷ’n-y-Coedcae

Y Gwir

Ym 1861, cafodd Rheilffordd Tredelerch y pwerau i’w thrawsnewid ei hun o dramffordd yn rheilffordd fodern ac yn yr un ddeddf awdurdodwyd cangen o Fachen i Gaerffili. Cysylltai’r gangen â Rheilffordd Rhymni, busnes cwbl ar wahân, ychydig i’r dwyrain o Gaerffili. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cymerwyd Rheilffordd Tredelerch gan Reilffordd Aberhonddu a Merthyr, a bu i’r gangen fodolaeth dawel nes iddi hi ddod yn rhan o lwybr lle roedd Dociau a Rheilffordd Alexandra (Casnewydd a De Cymru) yn cludo glo o gymoedd Rhondda a Dâr i Gasnewydd. Er mwyn hwyluso llif y traffig, dyblwyd rhan o’r llwybr trwy gyfrwng llinell ddolen ar aliniad gwahanol a graddiannau mwy ffafriol. Ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, darparwyd nifer o arosfannau, rhai ohonyn nhw’n anarferol oherwydd gwasanaethid nhw gan drên yn rhedeg i un cyfeiriad yn unig.

Y Dychymyg

yn fy hanes i, ni adeiladwyd y llinell ddolen, ond gwnaeth yr arosfannau ac mae’r arhosfan ar y llunwedd, Arhosfan Rhyd-y-Gwern, i fod i gynrychioli un o’r rhain.

Lleoliad

Map yn dangos lleoliad Tŷ’n-y-Coedcae a’r rheilffyrdd cysylltiedig.

Edrych ar y llunwedd

Wrth i chi edrych ar y cynllun rydych chi’n edrych tua’r gogledd, gyda Machen a, thu hwnt i hynny, Casnewydd ar y dde i chi a Gwaith Tunplat Waterloo a Chaerffili ar y chwith.

Gweithredu

Yn ddelfrydol, bydd y trenau a weithredir yn adlewyrchu’r rhai a redodd ar Gangen Caerffili ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai hyn yn cynnwys trenau nwyddau lleol B&MR, trenau glo trwodd a threnau gwag a weithredir gan Reilffordd Cwm Taf neu’r ADR, a threnau teithwyr a weithredir gan y GWR ac ADR. . Efallai un diwrnod, gwelwn ni Reilgar Stêm Rheilffordd Rhymni.

Mewn arddangosfeydd, efallai gellir defnyddio stoc arall o bryd i’w gilydd.

Dyma ddyfyniad o Atodiad GWR i’r Amserlen Waith o 1931 sy’n ymdrin â rhai agweddau ar weithrediad cangen Caerffili.

Er syndod, mae Arhosfan Rhyd-y-Gwern wedi’i hepgor o’r rhestr!

Y llunwedd mewn arddangosfa

Dyma sut edrychodd Tŷ’n-y-Coedcae ar ei arddangosfa gyntaf, yn Nhrefynwy, Chwefror 2024.
Mae gwasanaeth GWR o Bontypridd i Gasnewydd yn clecian mynd drwy Arhosfan Rhyd-y-Gwern.
Mae cyn-danc Peckett ADR yn tynnu llond llaw o wagenni tuag at Pontypridd.

Tarddiad Tŷ’n-y-Coedcae

Prynodd LBH y llunwedd oddi wrth aelod o Grŵp Ardal ScaleSeven lleol, Ian Roll, a, nes ei chaffael, roedd hi’n dwyn yr enw Pol Sands.

Dyluniad ‘pos siyntio’ clasurol oedd Pol Sands ac enillydd cystadleuaeth ‘Challenge 33+3’ ScaleSeven oedd hi. Wedi ei gosod yn y 1950au a’i lleoli ym mhen pellaf gorsaf LSWR gynt yng Nghernyw, Pol Sands yw’r lle ble mae’r Gorsaf-Feistr yn anfon y traffig codi nwyddau i gyd er mwyn cael ei ddidoli yn y drefn gywir ar gyfer cludo ymlaen i’w cyrchfannau terfynol.

Dyma Pol Sands yn Arddangosfa Nailsea yn 2022.

Scroll to Top