Llanastr

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

by Rod Hall

Crynodeb

Mae’r model yn cynrychioli rhan o orsaf ar gangen i reilffordd y Brecon and Merthyr a redai o Gasnewydd i Aberhonddu gyda changhenni i Rymni, Dowlais a Merthyr Tudful. Daeth y B&M yn rhan o grŵp y Great Western ym 1922 pan gasglwyd y rhan fwyaf o’r hen gwmnïoedd rheilffordd annibynnol i mewn i bedwar cwmni mawr. 

Afraid dweud bod Llanastr yn llecyn dychmygol ond tybiaf fod y dref yn ardal y min gogleddol y maes glo’r de yng ngogledd-orllewin yr hen Sir Fynwy. Mae’r cyfnod yn aeaf yn y blynyddoedd cyn y rhyfel byd cyntaf pan oedd y diwydiant glo ar ei anterth ac mae trenau cyson o lo ar y lein yn ogystal â threnau i deithwyr i Bengam a Chasnewydd a nwyddau cyffredinol.

Mae’r modelau ar raddfa o 4mm i bob troedfedd ac mae’r pellter rhwng y cledrau yn 18.83 mm. Mae adeiladu’r cledrau yn waith law ac mae dros 90 o gydrannau ym mhob pedair modfedd o gledrau.

Seiliwyd yr adeiladau i gyd ar enghreifftiau gwreiddion a safai ym Machen, Rhymni a Rhiwderyn.

Scroll to Top